Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar - NLB5 Aberystwyth

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
7 Diwrnod
Aberystwyth
Dyfarniad Cymhwyster ILM Lefel 3
9:00-17:00
O £595 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Darganfod yr arweinydd ynoch chi  

  • Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
  • Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
  • Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
  • Gwella perfformiad busnes, gyrru cynhyrchiant a chreu gwerth ar gyfer cwsmeriaid. 

Mae'r rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain.   Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.  

Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.  

Mae ein rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.  Mae'r rhaglen yn cyflwyno'r Cynfas Model Busnes fel fframwaith ar gyfer strategaeth - glasbrint un-dudalen i arweinwyr ddeall eu cynnig gwerth am arian a chreu gwerth am arian i'w cwsmeriaid. 

Strwythur rhaglen

  •          Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
  •          Cynllun busnes ar dudalen
  •          Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
  •          Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
  •          Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein
Diwrnod sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
15 Mai 201909:00 - 17:00TBC
Bwtcamp sefydliadau sy'n dysgu
Cyfathrebu, Cynfas Model Busnes a chynllunio gweithredu
4 & 5 Mehefin 201909:00 - 17:00TBC
Arwain eich hunan: Dosbarth meistr 1
Deall arweinyddiaeth
18 Gorffennaf 201909:00 - 17:00TBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 2
Sut rydyn ni’n gweithio gyda phobl
3 Medi 201909:00 - 17:00TBC
Arwain twf: Dosbarth meistr 3
Sut gallwn ni ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau
16 Hydref 201909:00 - 17:00TBC
Y daith ddysgu
Myfyrio, cyfleu a graddio
20 Tachwedd 201909:00 - 17:00TBC

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .