Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar (15)

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
27 Medi 2022
Blended Delivery - Virtual / F-2-F (Bridgend)
ILM Lefel 3
See below timetable for session timings
O £0 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

SYLWER: Mae’r rhaglen hon yn llawn ar hyn o bryd. Os oes diddordeb gennych yn y rhaglen hon, bydd rhestr aros, felly e-bostiwch ionleadership@abertawe.ac.uk

-------------------------------------------------------------------------------------------

Sylwer, diolch i gyllid WEFO, gallwn gynnig y rhaglen hon wedi’i hariannu’n llawn i BBaChau (sefydliadau sydd â llai na 250 o aelodau staff). Os yw’r rhaglen hon o ddiddordeb i chi, ac os oes gennych chi lai na 250 o aelodau staff, cysylltwch ag aelod o dîm ION yn ionleadership@abertawe.ac.uk 

-------------------------------------------------------------------------------------------

Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno’n rhithwir ar Zoom, gyda sesiwn profiad wyneb yn wyneb dros nos a’r opsiwn o raddio wyneb yn wyneb (edrychwch ar y manylion isod ar yr amserlen).

-------------------------------------------------------------------------------------------

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen:

Cynlluniwyd y Rhaglen Arweinwyr Newydd i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd yng nghamau cynnar datblygiad eu sgiliau arwain. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd i'w sefydliadau.

Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?

Ar ein rhaglen Arweinwyr Newydd ILM Lefel 3 byddwch yn:

  • Darganfod adnoddau arweinyddiaeth cyfoes
  • Darganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu ac ysgogi pobl
  • Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
  • Gwella perfformiad busnes a sbarduno cynhyrchiant
  • Am restr lawn o ddosbarthiadau meistr, edrychwch ar strwythur y rhaglen isod

Bydd y rhaglen hon yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â swyddi niferus yn eu sefydliad mewn cyfnod cynnar, wrth iddynt gydbwyso anghenion gweithredol a strategol y busnes o ddydd i ddydd. Maent mewn cyfnod lle maent yn datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, gan ddirprwyo cyfrifoldeb i dîm grymus a medrus ochr yn ochr â dysgu arwain, nid dim ond rheoli.

Cynlluniwyd y rhaglen hon i sicrhau bod y cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull gweithredu eu hunain mewn perthynas ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried swyddi a thasgau'r tîm i greu fframwaith busnes cadarn ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.

Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP

Mae'r rhaglen yn rhoi Dyfarniad Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r cyfranogwyr. 

Mae’r rhaglen hon wedi’i hardystio gan y CPDSO ar gyfer hyd at 40 awr DPP (yn amodol ar bresenoldeb).

Aseiniadau

Fel rhan o'r rhaglen, i ennill y cymhwyster, bydd y cyfranogwyr yn cwblhau 2 aseiniad 2,500-3,000 o eiriau. Bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu cefnogi i gwblhau'r aseiniadau hyn gan arweinwyr eu rhaglen.

Strwythur rhaglen

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .