Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni ar:
01792 606738 Abertawe neu 01248 382497 Bangor.

Rhaglen Arwain Twf (DB9) - Ar-lein & Bangor

0 llefydd ar ôl!
Llawn
Manylion cwrs
Dechrau 9fed Medi 2020
Bangor
ILM Lefel 5
09:00-17:00
O £0 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

**Nodwch os gwelwch yn dda y gall rhai o’r dyddiadau neu drefn sesiynau gael eu diwygio cyn y Diwrnod Sylfaen.    Byddwn yn cadarnhau amseroedd cychwyn y sesiynau cyn y dyddiad cychwyn.  Oherwydd rheoliadau Covid19 efallai bydd angen i ni newid dyddiad y Digwyddiad Dysgu sydd ar hyn o bryd wedi’i drefnu ar gyfer Ionawr 2021 – mae hyn yn ddibynnol ar Reoliadau Pellhau Cymdeithasol a Chyfarfodydd **

  • Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau
  • Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau

  • Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad

  • Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol

  • Datblygu persbectif mwy strategol

  • Gwella twf personol

Bydd Rhaglen Arwain Twf ION yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau. 

Bydd y Rhaglen yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.

Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.

Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP

Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr

Mae'r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

I weld prisiau ar gyfer ein cyrsiau, cliciwch yma.

Strwythur rhaglen

  • 3 sesiwn hyfforddi unigol

  • Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)

  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan

  • Setiau dysgu gweithredol

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol

  • Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein

  • Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso

Diwrnod Sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
9fed Medi 2020TBC - TBCTBC
Arwain eich hunan: Dosbarth meistr 1
Proffil DISC a Deallusrwydd Emosiynol
23ain Medi 2020TBC - TBCTBC
Action Learning Set
14eg Hydref 2020TBC - TBCTBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 2
Arweinyddiaeth Effeithiol a Symbyliad
28ain Hydref 2020TBC - TBCTBC
Action Learning Set
11eg Tachwedd 2020TBC - TBCTBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 3
Rheoli Perfformiad a Gwrthdaro
25ain Tachwedd 2020TBC - TBCTBC
Action Learning Set
16eg Rhagfyr 2020TBC - TBCTBC
Digwyddiad Dysgu
2 ddiwrnod ac aros dros nos
13eg & 14eg Ionawr 2020TBC - TBCTBC
Arwain Sefydliadau: Dosbarth meistr 4
Diwylliant a Gwerthoedd
10fed Chwefror 2020TBC - TBCTBC
Arwain Twf: Dosbarth meistr 5
Cynllunio Busnes ar gyfer Perfformiad a Twf
10fed Mawrth 2020TBC - TBCTBC
Cyflwyniadau'r Daith Ddysgu Fyfyriol
Cyflwyniadau
14eg Ebrill 2020TBC - TBCTBC
Llawn

Cysylltwch â ni os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .

 

ION leadership 14h

Join ION team members @AdamFairbank and @suzepj this Thursday for our weekly ION Open Doors virtual networking ses… twitter.com/i/web/status/1…