Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arwain Twf (DB8) - Bangor

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
Dechrau 11 Medi
Bangor
ILM Lefel 5
09:00-17:00
O £995 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Ymunwch â 1000 o Arweinwyr...

  • Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau

  • Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau

  • Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad

  • Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol

  • Datblygu persbectif mwy strategol

  • Gwella twf personol

Bydd Rhaglen Arwain Twf ION yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau. 

Bydd y Rhaglen yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.

Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.

Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP


Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr

Mae'r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

I weld prisiau ar gyfer ein cyrsiau, cliciwch yma.

Strwythur rhaglen

  • 3 sesiwn hyfforddi unigol

  • Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)

  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan

  • Setiau dysgu gweithredol

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol

  • Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein

  • Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso

Diwrnod Sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
11 Medi 201909:00 - 17:00TBC
Digwyddiad Dysgu
2 ddiwrnod ac aros dros nos
9 & 10 Hydref 201909:00 - 17:00TBC
Arwain eich hunan: Dosbarth meistr 1
Proffil DISC a Deallusrwydd Emosiynol
5 Tachwedd 201909:00 - 17:00TBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 2
Sut rydyn ni'n gweithio gyda phobl
4 Rhagfyr 201909:00 - 17:00TBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 3
Perfformio drwy Bobl
22 Ionawr 202009:00 - 17:00TBC
Arwain Sefydliadau: Dosbarth meistr 4
Diwylliant a Gwerthoedd
19 Chwefror 202009:00 - 17:00TBC
Arwain twf: Dosbarth meistr 5
Arwain Newid
18 Mawrth 202009:00 - 17:00TBC
Y Daith Ddysgu Fyfyriol
23 Ebrill 202009:00 - 17:00TBC

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .