Rhaglen Arwain Twf (DB13) - Bangor
Mae'r cwrs wedi gorffen.
Crynodeb cwrs
Sylwer y gallwn gynnig y rhaglen hon ar sail wedi'i hariannu'n llawn oherwydd cefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. I wirio cymhwysedd, lawrlwthwch ein Cwestiynau Cyffredin.
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Ar ein rhaglen Leading Growth Lefel 5 yr ILM, byddwch yn:
Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau
Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau
Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad
Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol
Datblygu persbectif mwy strategol
Gwella twf personol
Bydd Rhaglen Arwain Twf ION yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau.
Bydd y Rhaglen yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.
Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.
Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen Arwain Twf yn cael 3 sesiwn hyfforddi ar gyfer Swyddogion Gweithredol.
Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP
Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr
Mae'r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
I weld prisiau ar gyfer ein cyrsiau, cliciwch yma.
Strwythur rhaglen
3 sesiwn hyfforddi unigol
Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)
Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
Setiau dysgu gweithredol
Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein
Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .