Rhaglen Arwain Twf (32)
Mae'r cwrs wedi gorffen.
Crynodeb cwrs
Crynodeb o’r Cwrs
SYLWER: Mae’r rhaglen hon yn llawn ar hyn o bryd. Os oes diddordeb gennych yn y rhaglen hon, bydd rhestr aros, felly e-bostiwch ionleadership@abertawe.ac.uk
-------------------------------------------------------------------------------------------
Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno’n rhithwir ar Zoom, gyda sesiwn profiad wyneb yn wyneb dros nos a’r opsiwn o raddio wyneb yn wyneb (edrychwch ar y manylion isod ar yr amserlen).
-------------------------------------------------------------------------------------------
Ar ein rhaglen Arwain Twf ILM Lefel 5 byddwch yn:
- Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadol
- Datblygu'r gallu i arwain, cymell ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau
- Sbarduno cynhyrchiant a pherfformiad
- Ymuno â chymuned o bobl angerddol ac uchelgeisiol
- Datblygu persbectif mwy strategol
- Gwella twf personol
Bydd Rhaglen ION Arwain Twf yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais arbennig ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf ar gyfer eu busnesau.
Bydd y Rhaglen yn cyflwyno’r cyfranogwyr i Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP), gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, gan eu galluogi i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy’n sbarduno cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliadau ymhellach.
Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau’r cyfranogwyr o ran darparu cyfeiriad cadarn a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau’r sefydliad. Mae’r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol – “gweithio ‘ar’ y busnes ac nid ‘yn’ y busnes”. Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo rheolaeth o ddydd i ddydd i weithlu dibynadwy, medrus, wedi’i rymuso, er mwyn i berfformiad strategol gael ei sbarduno ar bob lefel o’r sefydliad.
Bydd y cyfranogwyr ar ein rhaglen Arwain Twf yn cael 3 sesiwn Hyfforddi Gweithredol hefyd.
Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP
Mae'r rhaglen yn rhoi Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r cyfranogwyr.
Mae'r rhaglen hefyd wedi'i hardystio ar gyfer 70 awr DPP.
Strwythur rhaglen
Strwythur y Rhaglen
- 3 sesiwn Hyfforddiant Gweithredol Unigol
- Cyfnewid Gwybodaeth Arweinyddiaeth (gyda Phartner o'r Grŵp)
- Dosbarthiadau meistr hynod gyfranogol
- Setiau Dysgu Gweithredol
- Cynllun Datblygu Personol a Chofnod Adlewyrchol
- Tiwtor a chymorth dysgu ar-lein
- I ennill y cymhwyster, bydd y cyfranogwyr yn cwblhau 2 aseiniad 2,500-3,000 o eiriau. Bydd y cyfranogwyr yn cael cefnogaeth gan eu harweinwyr rhaglen ar gwblhau eu haseiniadau.
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.
DIOLCH!
Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .