Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arwain Twf (26) - Ar-lein & Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
9 Chwefror 2021
Ar-lein & Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
ILM Lefel 5
TBC
O £0 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

***Rhaglen yn Llawn***

Ar hyn o bryd mae’r rhaglen hon yn llawn yn amodol ar bob mynychwr yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais a bydd aelod o dîm Arweinyddiaeth ION yn cysylltu â chi i drafod cyfleoedd pellach.

Diolch yn fawr,

Tîm Arweinyddiaeth ION

---------------------------------------------------------------------------------------------------

Sylwer, yn ystod y pandemig Coronafeirws presennol, cyflwynir y rhaglen hon drwy ddysgu cyfunol. Cyflwynir y rhaglen yn rhithwir trwy Zoom a’r bwriad yw cyflwyno ar sail wyneb yn wyneb pan fydd y Llywodraeth yn llacio’r mesurau a’r rheolau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau grŵp.

  • Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau

  • Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau

  • Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad

  • Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol

  • Datblygu persbectif mwy strategol

  • Gwella twf personol

Bydd Rhaglen Arwain Twf ION yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau. 

Bydd y Rhaglen yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.

Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.

Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP

Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr

Mae'r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Strwythur rhaglen

  • 3 Individual Coaching sessions
  • Leadership Knowledge Exchange (with Partner from Cohort)
  • Highly participative master classes
  • Action Learning Sets
  • Personal Development Plan and Reflective Journal
  • Tutor and online learning support

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .