Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

ION Arwain Twf (19) - Abertawe a Gorllewin Cymru

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
Starting on 16th October 2018 - 9 days over 8 months
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
ILM Lefel 5
09:00 - 17:00
O £995 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Ymunwch â 1000 o Arweinwyr...

  • Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau

  • Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau

  • Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad

  • Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol

  • Datblygu persbectif mwy strategol

  • Gwella twf personol

Bydd Rhaglen Arwain Twf ION yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr. Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau. 

Bydd y Rhaglen yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, a’u galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad ymhellach.

Bydd y Rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes". Mae Rhaglen Arwain Twf ION yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.

Dyfarniad ILM ac ardystiad DPP

Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i gynrychiolwyr

Mae'r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

I weld prisiau ar gyfer ein cyrsiau, cliciwch yma.

Strwythur rhaglen

Strwythur y rhaglen

  • 3 sesiwn hyfforddi unigol

  • Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)

  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan

  • Setiau dysgu gweithredol

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol

  • Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein

  • Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso

Diwrnod sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
16 Hydref 201809:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Digwyddiad Dysgu
2 ddiwrnod ac aros dros nos
13 a 14 Tachwedd 201809:00 - 17:00Gwesty Mercure, Abertawe
Arwain eich Hunan
Proffil DISC a Deallusrwydd Emosiynol
6 Rhagfyr 201809:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Arwain Pobl
Sut rydyn ni'n gweithio gyda phobl
17eg Ionawr 201909:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Arwain Pobl
Diwylliant a Gwerthoedd
14 Chwefror 201909:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Arwain Sefydliadau
Perfformio drwy Bobl
13 Mawrth 201909:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Arwain Twf
Arwain Newid
11 Ebrill 201909:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Y Daith Ddysgu Fyfyriol
Graddio
2 Mai 201909:00 - 17:00Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .