Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth DB4

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
9 diwrnod
Gogledd-Orllewin Cymru
Dyfarniad Cymhwyster ILM Lefel 5
09:00-17:00
O £1195 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Datblygu rhagor o hyder i arwain  

  • Deall amrywiaeth o arddulliau arwain a'r effaith ar berfformiad sefydliadau
  • Datblygu'r gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill i gyflawni canlyniadau
  • Gyrru cynhyrchiant a pherfformiad
  • Ymuno â chymuned o bobl frwd ac uchelgeisiol
  • Datblygu persbectif mwy strategol
  • Gwella twf personol

 

Bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar arweinwyr a rheolwyr mewn sefydliadau bach, canolig a mawr.  Bydd yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu eu sgiliau arwain i hwyluso twf eu busnesau. 

Bydd y rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth yn cyflwyno Arferion Gwaith Perfformiad Uchel (HPWP) i gyfranogwyr, gan roi pwyslais arbennig ar arwain eu hunain ac arwain eraill, gan eu galluogi nhw i ddatblygu a gweithredu cynlluniau cynaliadwy sy'n gyrru cynhyrchiant a pherfformiad eu sefydliad.

Bydd y rhaglen yn gwella gwybodaeth a sgiliau cynrychiolwyr ynghylch darparu cyfeiriad cryf a chymell eu tîm i gyflawni gweledigaeth a nodau'r sefydliad. Mae'r rhaglen yn datblygu eu sgiliau meddwl strategol - "gweithio 'ar' y busnes ac nid 'yn' y busnes".  Mae'r rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth yn annog dirprwyo’r gwaith rheoli o ddydd i ddydd i weithlu grymus a medrus y gellir ymddiried ynddo, er mwyn i berfformiad strategol gael ei yrru ar bob lefel o'r sefydliad.

Strwythur rhaglen

  • Cyfnewid gwybodaeth am arweinyddiaeth (gyda phartner o'r Cohort)
  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
  • Setiau dysgu gweithredol
  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
  • Cymorth dysgu gan diwtoriaid ac ar-lein
  •  Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso

Dyfarniad ILM

Mae’r rhaglen yn cynnig Dyfarniad Lefel 5 i

gynrychiolwyr mewn Dod yn Arweinydd Effeithiol a Chyflwyniadau Effeithiol a hyd

at 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .