Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Astudiaethau

Alex-Michelle Parr, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wolfestone Translation

"Roedden ni’n ei chael yn anodd cael dros £2 filiwn o refeniw fel cwmni. Yr hyn a roddodd ION leadership i mi oedd yr hyder i edrych ar gaffaeliadau, edrych ar ddod â mwy o staff i mewn, edrych ar wahanol wasanaethau, ac yn gyffredinol, ym mlwyddyn gyntaf ION leadership, fe wnaethon ni gyrraedd £2.1 miliwn, a oedd yn gyflawniad aruthrol, a nawr, 18 mis yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n troi mwy na £4 miliwn. ’Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb ION leadership. ’Fyddwn i ddim wedi bod yn ddigon hyderus".

Ashley Miles, Rheolwr Rhanbarthol, Miles Hire

"Un o'r pethau gorau rydw i wedi'i wneud yn fy mywyd i. O ran dod â fi allan o fy nghragen a rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i mi mewn gwirionedd. Roeddwn i'n weithiwr, ac wedyn fe ddois i'n Rheolwr, a nawr rydw i'n Rheolwr Rhanbarthol. A phwy a ŵyr ble fydda’ i yn y dyfodol."

Aled Jones, Rheolwr Cynhyrchion, Hospital Innovations

"Gallaf fynd â llawer o'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu yn ôl i'r busnes. Roedd person arall o'r un busnes ar y cwrs yma gyda mi a byddai'n wych i'r ddau ohonon ni eistedd i lawr, adlewyrchu ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu a mynd â hynny yn ôl i mewn i'r busnes".

Sally Smith, Perchennog, Swansea Garage Storage

"Rydw i wedi dysgu am roi sylw i anghenion a chymell pobl. Am wahanol arddulliau arwain a phryd a sut i'w defnyddio. Rydw i wedi dechrau datblygu fy sgiliau hyfforddi, ac rydw i wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu. Rydw i wedi addasu diwylliant y busnes. Rydw i'n defnyddio agweddau ar y cwrs ION yn ddyddiol".

Michelle Wright, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Recriwtio, Med-Co Europe

"Rydw i'n teimlo'n fwy hyderus ynof fi fy hun, yn fy ngallu i roi rhai o'r pethau rydw i wedi'u dysgu ar y cwrs ar waith, ond hefyd yn fy ngallu i siarad â phobl newydd. Rydw i hefyd yn teimlo'n fwy hyderus yn siarad gyda phobl rydw i'n eu hadnabod eisoes, oherwydd fe ddysgodd y cwrs ION leadership i ni pa mor bwysig yw hi i newid y ffordd rydyn ni’n arwain yn dibynnu ar yr arddull arwain sydd ar eraill ei angen. Mae hyn wedi bod o fudd i mi y tu mewn a thu allan i'r gwaith, gan fy mod i bellach yn llawer mwy ymwybodol o fy ymddygiad fy hun."

Shaun Welsh, Cyfarwyddwr Masnachol, Trojan Construction Management

"Er bod gennym ni sylfaen a gwybodaeth wych yn y maes adeiladu, ychydig oedden ni’n ei wybod am fusnes a rhedeg cwmni. Fe alluogodd y cwrs i mi gymryd cam yn ôl a gweld fy musnes o’r tu allan. Ers dechrau ar y cwrs, mae ein cwmni ni wedi gweld twf mewn trosiant ac elw, rydyn ni wedi cyflogi mwy o staff ac wedi rhoi gweithdrefnau gwell ar waith sy'n gwneud ein bywydau ni i gyd yn llawer haws."

Ben Ruddle, Cyfarwyddwr, Home Instead Senior Care

"Datgelodd y rhaglen fy ngwendidau i ac wedyn rhoddodd yr adnoddau i mi ailadeiladu ac, yn y pen draw, gwella strwythur, diwylliant, mwynhad a throsiant y busnes. Roedd cynnwys y cwrs yn ardderchog ac yn rhagori ar fy nisgwyliadau i. Fe gynyddodd ein trosiant ni 30%, fe flodeuodd y tîm busnes, cafodd strwythur a strategaeth eu creu a’u gweithredu a rhoddwyd adnoddau ar eu cyfer".