Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Pwysigrwydd datblygu arweinyddiaeth ar ôl y pandemig (Celtest)

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 27/4/2022 / ION leadership news, / Blog posts

Wrth i'r pandemig byd-eang leddfu, ac wrth i’r cyfyngiadau covid ddod i ben ym mhobman, mae Celtest Company Limited, cwmni profi deunyddiau adeiladu yn Llandegai, wedi dysgu pwysigrwydd addasu'n gyson i fodloni amodau gweithredu sy'n newid yn barhaus.

Celtest_3.JPGYn debyg i brofiad cwmnïau eraill mewn llawer o sectorau, mae Celtest wedi cael uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Defnyddiodd rhai o’r staff y pandemig i feddwl am eu gyrfa, gan benderfynu gadael i fynd i swyddi eraill, tra bod Celtest hefyd wedi cael llawer o staff newydd o sectorau eraill oedd hefyd wedi penderfynu newid gyrfa.

Mae Jason Chinery, Rheolwr Gweithrediadau Celtest yn cydnabod yr heriau a'r cyfleoedd a ddaeth yn sgil hyn.

“Er i ni golli aelodau tîm a sgiliau gwerthfawr, cawsom hefyd gyfle gwych i ddatblygu ein staff hen a newydd. Ymunodd llawer o’r staff newydd â ni o’r sector lletygarwch, gan ddod â sgiliau, safbwyntiau a phrofiad newydd yn eu sgil. Maent wedi cynefino â’u swyddi newydd bellach ac maent yn dal gyda ni heddiw”.

Mae Celtest yn cydnabod pwysigrwydd strategol datblygiad staff ac mae gan y cwmni berthynas hirsefydlog ag ION Leadership, gyda nifer o uwch reolwyr a rheolwyr canol yn cwblhau eu rhaglenni. Meddai Jason; “Mae Celtest yn parhau i fuddsoddi yn ein holl staff, gan ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi yn fewnol ac yn allanol sy'n sicrhau bod ein staff yn bobl dechnegol gymwys, tra'n ceisio pennu llwybrau clir ar gyfer datblygiad. Fel un o’r cwmnïau profi deunyddiau adeiladu mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, mae sicrhau bod ein tîm yn meddu ar y sgiliau arwain priodol yn allweddol i alluogi ein staff i ffynnu mewn timau gwydn a deinamig”.

“Mae Celtest yn falch iawn o noddi digwyddiad graddio arweinyddiaeth ION a gynhelir cyn bo hir, a bydd pedwar o reolwyr Celtest yn derbyn eu hardystiadau ILM, sy’n sicr yn ffordd wych o ddathlu eu llwyddiant” meddai Jason.

Sylwadau