Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Arweinyddiaeth: Mae’n beth...emosiynol

Ysgrifennwyd gan zoo_visitor_guest / 10/10/2016

emotional.jpgYn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, mae cyfnod o ansicrwydd ar droed i fusnesau yng Nghymru. Os ydych chi’n rhedeg busnes yng Nghymru, byddwch yn wynebu’r emosiynol, ochr yn ochr â’r rhesymegol a’r rhesymol.

Mae llawer o bobl yn coleddu ofnau ynghylch sut y bydd y newid tyngedfennol yma yn effeithio arnyn nhw - eich staff, eich cyflenwyr, eich cymdogion neu eich cwsmeriaid. Os ydych chi’n arweinydd busnes yng Nghymru, maen nhw’n troi atoch chi am arweiniad.

Felly beth ydych chi'n ei wneud? Bydd pobl yn disgwyl i chi roi’r emosiynau hynny o’r neilltu a braenaru eich llwybr i lwyddiant - creu strategaeth resymegol ar gyfer y dyfodol. 

Haws dweud na gwneud.  Ni all y rhan fwyaf ohonom wthio ein holl emosiwn o’r neilltu a meddwl am yr ateb perffaith. 

Yn lle troi’n arweinydd robotaidd di-emosiwn, beth pe gallech chi fanteisio ar yr emosiynau hynny rydych chi a phobl eraill yn eu teimlo er mwyn helpu eich busnes i lwyddo yn y cyfnod pwysig yma o ansicrwydd?

Yn ôl gwaith ymchwil, mae arweinyddion busnes sy’n delio â’u hemosiynau mewn modd positif yn fwy tebygol o gadw staff, cynyddu eu cynhyrchiant a datblygu perthnasau busnes newydd sy’n para ac yn arwain at gyfleoedd newydd. 

Beth pe bai hyn yn sgil y gallech chi ei dysgu?

Mae rhaglen arweinyddiaeth ION yn gwneud yr union beth.  Mae’n helpu i’ch rhoi chi nôl ar ben ffordd.  Gweithredu, nid adweithio.  Meithrin eich deallusrwydd emosiynol a manteisio arno er mwyn cael y gorau ohonoch chi a’ch gweithlu. 

Rydyn ni wedi treulio pum mlynedd yn darganfod beth sy’n gweithio i arweinyddion busnes yng Nghymru ac mae gennym yr adnoddau i roi hynny ar waith. 

Beth am ein ffonio ni i gael rhagor o wybodaeth? 01792 606938 neu anfonwch e-bost ionleadership@swansea.ac.uk

Sylwadau