Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Newyddion da ar adeg anodd

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd. Maen nhw wedi bod yn straen ac yn llawn o newyddion drwg a digalondid. Mae pawb wedi bod yn poeni am deulu, ffrindiau a'n sefyllfa ein hunain – aros yn ddiogel yw'r peth pwysicaf i ni gyd.

Felly mae'n wych gallu rhannu newyddion ardderchog a gawsom yn ddiweddar! Derbyniwyd cadarnhad gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru y bydd y rhaglen ION Leadership ar gael wedi'i hariannu'n llawn am gyfnod cyfyngedig! Daeth y newyddion hyn ar adeg pan fo busnesau'n dechrau ail-afael ynddi eto ac yn agor eu drysau i fyd tra gwahanol i'r hyn ydoedd dri mis yn ôl. Adeg pryd y bydd arweinyddiaeth dda'n flaenoriaeth er mwyn codi'r wlad yn ôl ar ei thraed, croesawu staff yn ôl o fod ar ffyrlo a sicrhau bod popeth yn ei le i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel.

Become_an_extraordinary_leader.pngRwyf wedi bod ar binnau eisiau rhannu'r newyddion hyn gyda chi! Fel y gallwch ddychmygu, roedden ni'n gwybod am hyn gwpwl o wythnosau'n ôl ac mae wedi bod yn anodd iawn cadw'n dawel, yn enwedig wrth i ni gyfarfod â'n cwsmeriaid a siarad am ein cynlluniau i ddarparu rhaglenni yn y dyfodol ond eto'n methu â rhannu manylion am yr arian newydd! Mae ein sesiynau Coffi a Dal Fyny gyda'r cohortau yn y Gogledd, a'r sesiynau Drysau Agored yn y De, wedi bod yn gyfle gwych i ni gyfarfod â phawb ac mae wedi bod yn dda clywed am y straeon llwyddiant a ddaeth allan o'r sefyllfa hon, ond ar y llaw arall mae wedi bod yn drist gwrando ar rai ohonoch sy'n mynd drwy amser anodd iawn ar y funud. Effeithiwyd yn ddrwg iawn ar lawer ohonoch yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth a gobeithio y gallwn eich cynorthwyo gymaint â phosib.

Maen nhw'n dweud bod angen manteisio ar bob her mewn bywyd, ac mae COVID-19 yn sicr wedi bod yn her anferth ond yn un sydd hefyd wedi dod â chyfleoedd. Gallen ni fod wedi eistedd yn ôl a dweud "beth am aros tan fis Medi i weld allwn ni gynnal ein cyrsiau bryd hynny"; neu wynebu'r her ac eistedd i lawr fel tîm traws-Gymru i drafod beth allwn ni ei wneud yn wahanol, pa gyfleoedd a ddaw gyda COVID-19? Rydyn ni wedi bod yn edrych ar y cohortau a gynlluniwyd eisoes ar gyfer 2020/21 ac wedi bod yn symud pethau o gwmpas ychydig i sicrhau y gallwn ddarparu ein rhaglenni'n ddiogel i chi.

Wrth fynd i mewn i'r cyfnod clo ar 23 Mawrth 2020, roedd yn rhaid i ni ymateb yn gyflym oherwydd roedd nifer o gohortau oedd angen eu cwblhau. Dyna pryd y penderfynwyd parhau i ddarparu ein cohortau presennol, ond gwneud hynny ar-lein. Mae hyn wedi gweithio'n dda ac wedi'i groesawu'n dda.  Gwyddom felly fod darparu ar-lein yn gweithio'n dda a bod mynychwyr yn gallu rhyngweithio wrth ddysgu ar-lein.  Penderfynwyd hefyd edrych yn fanwl ar ba dechnoleg sydd ar gael a sut i wneud y defnydd gorau o'r dechnoleg hon wrth ddarparu i'n cohortau.

Mae hefyd wedi rhoi amser i ni edrych eto ar ein rhaglenni a gweld beth efallai sydd angen ei newid neu ei addasu efallai! Mae'n dda myfyrio ar ein gwaith a meddwl am beth a weithiodd yn dda, beth na weithiodd cystal a sut y gallwn wella hyn (h.y. gwrando ar ein neges ein hunain!).  Mae wedi bod yn dda cael yr amser i wneud hyn ac rydyn ni wedi gwneud y mwyaf ohono!

Dyna pam y penderfynwyd parhau i ddarparu ein rhaglenni ar-lein ym mis Medi gan ddisgwyl gallu dychwelyd at sesiynau wyneb yn wyneb cyn gynted ag y bydd y llywodraeth yn llacio'r mesurau pellhau cymdeithasol a'r rheolau ar weithgareddau grŵp. Gallai hyn fod mor fuan â Rhagfyr / Ionawr. Felly os bydd cohort yn dechrau ym mis Medi, rydyn ni'n rhagweld y bydd rhai sesiynau'n digwydd ar-lein ac yna, cyn gynted ag y gallwn, bwriadwn gynnal ein sesiynau dysgu drwy brofiad a'n dosbarthiadau meistr wyneb yn wyneb gan roi cyfle i chi weithio'n agosach fyth â'ch cyd-fynychwyr.

Felly, beth y mae hyn yn ei olygu i chi, fynychwyr rhaglen y dyfodol? Wel, os ydych chi neu aelodau o'ch tîm wedi bod eisiau mynychu rhaglen ION Leadership yn y gorffennol, ond am ryw reswm neu'i gilydd wedi methu â gwneud hynny, dyma'ch cyfle i gofrestru ar raglen wedi'i hariannu'n llawn (bydd yr arian hwn ond ar gael am hyn a hyn o amser, ni fydd yn para am byth!). Rhaid i chi fodloni meini prawf cymhwyso er mwyn gallu cofrestru, felly ewch i'r wefan neu gallwch gysylltu gyda ni ac fe eglurwn bob dim i chi.

Oherwydd bod y tîm ION i gyd yn gweithio o gartref, y ffordd orau o gysylltu yw drwy anfon e-bost atom yn (ionleadership@bangor.ac.uk neu ionleadership@swansea.ac.uk) neu i wneud cais, ewch i www.ionleadership.co.uk gan ddilyn y ddolen i'r porth Ceisiadau. Ar ôl gwneud hyn, byddwn yn cysylltu gyda chi i drafod meini prawf cymhwyso pellach a pha waith papur fydd ei angen! Hawdd!

Yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel a gobeithio y gallwn eich croesawu chi ac aelodau o'ch tîm i rai o'n rhaglenni dros y misoedd nesaf.

Sylwadau