Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Hoffech chi fod yn arweinydd rhagorol?

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 29/6/2018

Yn Arweinyddiaeth ION, rydyn ni’n trawsnewid rheolwyr a pherchnogion busnes yn arweinwyr rhagorol. Mae gennym ni hanes llwyddiannus ar ôl gweithio gyda thros 1200 o reolwyr, arweinwyr ac entrepreneuriaid i greu cymuned o arweinwyr - cymuned sy'n rhoi dysgu, arloesi ac ymddiriedaeth wrth galon ei harferion.

Mae gennym ni raglenni newydd sy'n dechrau yn nes ymlaen eleni a byddem ni wrth ein bodd petaech yn dod yn rhan o brofiad arweinyddiaeth ION. Fodd bynnag, peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig. Rydyn ni’n frwd dros ein rhaglenni, wrth reswm, ond pwy well i egluro pam y dylech chi gymryd rhan na’n cynrychiolwyr?

DSC_0091.JPGYn ddiweddar, rydyn ni wedi cwblhau adroddiad gwerthuso o’n rhaglen Arwain Twf a chawsom adborth gan 68 o arweinwyr a rheolwyr busnes ledled de Cymru. Roedd yr adborth yn wych.

Dyma ychydig o’r uchafbwyntiau:

  • Roedd 100% o’r atebwyr yn cytuno bod rhaglen arweinyddiaeth ION wedi’u gwneud yn arweinwyr gwell.

  • Roedd 92.5% o’r atebwyr yn cytuno bod ymuno â'r rhaglen wedi rhoi mwy o hyder iddynt yn eu swyddogaeth arwain.

  • Roedd 100% o’r atebwyr yn cytuno eu bod wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi cael syniadau newydd ar y rhaglen.

    Mae nifer o ddarpar gynrychiolwyr yn poeni y bydd yr amser y byddan nhw’n ei dreulio i ffwrdd o’r gwaith yn wastraff amser. Fodd bynnag, roedd 95% o’r atebwyr yn cytuno nad oedd treulio amser i ffwrdd o’u menter wedi cael unrhyw effaith ar eu busnes, neu roedd hynny wedi cael effaith gadarnhaol.

    Mae ein rhaglenni’n ymwneud â datblygu unigolion yn ogystal â’u sefydliadau. Dyna pam ein bod ni’n gofyn cwestiynau am yr effaith economaidd, yn ogystal â'r effaith ar gyfranogwyr, yn ein gwerthusiad.

    O ran effaith economaidd, fe wnaeth 90% o’r cynrychiolwyr greu a chyfleu strategaeth / gweledigaeth ar gyfer eu menter ac fe wnaeth 84% wneud mwy o elw yn sgil y rhaglen. Mae 47% o'r cynrychiolwyr wedi cynyddu nifer eu gweithwyr ers dechrau'r rhaglen ac mae 42% yn bwriadu cyflwyno cynnyrch neu wasanaethau sy’n bodoli eisoes i farchnadoedd newydd.

    “Mae fy nghwmni wedi bod yn mynd rhagddo ers 5 mlynedd ond roedd y trosiant yn is y llynedd. Roedd ein trosiant yn dda cyn hynny, felly daethom ar y cwrs i adfywio ein brwdfrydedd ac mae’r cwrs wedi gwneud hynny. Roeddwn i’n edrych ar y ffigurau ddoe ac rydyn ni eisoes wedi gwneud cynnydd o 20% ar ffigurau 2015, rydyn ni wedi cyflogi 1 gweithiwr ac rydyn ni’n bwriadu cyflogi un arall. Mae'r cwrs hwn wedi bod o fudd enfawr.”

    Beth am yr effaith ar gyfranogwyr?

    Fel y soniwyd yn gynharach, roedd 100% o’r atebwyr yn cytuno bod y rhaglen wedi’u gwneud yn arweinwyr gwell ond, yn benodol, fe wnaeth 54% o'r cynrychiolwyr wella eu sgiliau ‘cyfathrebu ag eraill’ ac roedd 54% yn teimlo eu bod wedi gwella eu sgiliau ‘arwain eraill’.

    “Ymhlith y prif bethau a ddysgais ar y cwrs, rydw i wedi dysgu gofyn y cwestiynau cywir a rheoli pobl yn y ffordd gywir. Rydw i wedi gwneud newidiadau i’r swyddfa ar ôl mynd allan i weld busnesau eraill. Rydw i wedi rhoi gwedd newydd ar yr arwyddion ac wedi newid y cynllun mewnol ac ati, felly dydw i ddim yn meddwl y bydd pethau’n stopio yma.”

    Cafwyd canlyniadau tebyg mewn gwerthusiad o raglen ddiweddar a gafodd ei rhedeg ar Ardal Fenter Port Talbot: image3.jpeg

  • Mae 70% o’r busnesau a gymerodd ran wedi gweld cynnydd mewn trosiant

  • Mae 50% o’r sefydliadau a gymerodd ran wedi cyflogi mwy o bobl

  • Roedd 100% o’r cynrychiolwyr yn cytuno bod y rhaglen wedi eu helpu i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau arwain

    Roedd yr adborth anecdotaidd yr un mor gadarnhaol:

    “Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i wrando mwy ar fy staff, i symleiddio’r busnes, i ddenu gwell cwsmeriaid a’u helpu/addysgu nhw i gynllunio eu gwaith yn ogystal â fy ngwaith i.”

    Yn dilyn llwyddiant y rhaglen ym Mhort Talbot, rydyn ni wedi dechrau rhaglen arall yn ddiweddar yn yr ardal fenter, gyda 19 cynrychiolydd arall yn dechrau ar eu taith arwain.

    Mae ein cynrychiolwyr yn frwd dros ein rhaglenni ac mae eu hadborth bob amser yn gadarnhaol. Os ydych chi am ddarllen mwy o eirdaon gan gynrychiolwyr, mae modd eu gweld nhw yma.

    Am beth rydych chi’n aros? Mae ein rhaglen Arweinwyr Newydd nesaf yn dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis Medi ac mae ein rhaglen Arwain Twf nesaf yn dechrau yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol fis Hydref.

Sylwadau