Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Dathlu deng mlynedd o greu arweinwyr anhygoel

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 17/1/2019 / ION leadership news, / Blog posts

DSC_0091.JPGYn 2019 dathlwn ddeng mlynedd o arweinyddiaeth LEAD Cymru / ION. Ac am ddeng mlynedd anhygoel.

Hyd yma rydyn ni wedi gweithio gyda dros 1400 o arweinwyr ar draws Cymru i wella sgiliau a chynyddu cynhyrchedd a throsiant, a'r cwbl wedi gwneud cyfraniad aruthrol i economi Cymru. Datblygwn arweinwyr sy'n gweddnewid ein gwlad.

Mae effaith ein rhaglenni ar yr unigolion eu hunain ac ar eu busnesau'n glir i'w weld. Mae busnesau wedi gweld twf ar gyfartaledd o 26% mewn refeniw gyda 88% o'r rhai a fynychodd y rhaglenni'n dweud eu bod yn arweinwyr gwell o ganlyniad. Ond ni fyddwn yn fodlon hyd nes y bydd y ffigur yn 100%.

Ond peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig am hyn.

"Drwy fynd ar y cwrs, cefais gyfle i gamu'n ôl a gweld fy musnes o'r tu allan. Ers dechrau'r cwrs, mae ein cwmni wedi gweld y trosiant a'r elw'n cynyddu, rydym wedi cyflogi mwy o staff ac wedi rhoi gweithdrefnau gwell yn eu lle gan wneud ein bywydau i gyd yn llawer haws". Shaun Welsh, Cyfarwyddwr Masnachol, Trojan Construction Management

Felly beth yw cyfrinach y llwyddiant?

Mae gan ein cyfranogwyr eu hanesion eu hunain am effaith y rhaglen arnynt, gallwch ddarllen rhai yma.

Credwn fod nifer o resymau am lwyddiant y rhaglen:

  • Entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes ydyn ni yn y bôn, gyda dros 250 mlynedd o brofiad busnes rhyngom. Daw ein profiad o weithio am flynyddoedd i gwmnïau fel Coca Cola SchweppesRoyal Bank of ScotlandLloyds TSB a hefyd i gwmnïau bach a chanolig a sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.
  • DSC_0182.JPGYr hyn sy'n unigryw am ein rhaglenni yw ein USP sef ein harddull dysgu arbrofol. Credwn mai'r ffordd orau o ddysgu yw drwy wneud. Credwn mai'r ffordd fwyaf effeithiol o gynnal newid er gwell sy'n para'n hirach na'r tymor byr yw drwy roi'r lle, yr amser a'r adnoddau i gyfranogwyr arbrofi gyda gwahanol ddulliau o arwain, dysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu cynlluniau sy'n diogelu eu gyrfaoedd a'u busnesau at y dyfodol. Credwn mewn creu ymdeimlad o ddarganfod pethau o'r newydd, ac yn dal i gyffroi pan fydd pobl yn cael syniadau newydd sbon danlli grai. Yr enydau hyn mewn bywyd sy'n bwysig.
  • Ein cyfranogwyr penigamp. Rydyn ni wedi gweithio gyda phobl anhygoel dros y deng mlynedd diwethaf ac yn dal i fod mewn cysylltiad â rhai o'r cohort cyntaf un. Pan ofynnwn i gyn-gyfranogwyr siarad yn ein digwyddiadau, maen nhw'n neidio at y cyfle ac mae'n wych gweld cyfranogwyr yn rhannu'r effaith a gafodd ein rhaglen arnyn nhw ac ar eu busnes drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Unwaith y byddwch yn ymuno â ION, byddwch yn rhan o rwydwaith o arweinwyr a fu'n cynnal ei hun ers blynyddoedd.

Mae llawer i'w ddathlu byddwn yn gwneud hynny drwy gydol 2019. Felly cadwch lygad allan am astudiaethau achos, digwyddiadau a blogiau gan y tîm wrth i ni ddathlu deng mlynedd o greu arweinwyr rhagorol.

A fyw i mi anghofio diolch i bawb a fu'n rhan o siwrne Arweinyddiaeth LEAD Cymru / ION dros y deng mlynedd diwethaf. Gan gynnwys pawb a fu'n rhan o'r tîm, ESF a Llywodraeth Cymru, ein siaradwyr gwych a'r holl sefydliadau a fu'n bartneriaid i ni ac, wrth gwrs, pob un o'n cyfranogwyr. Mae pawb wedi chwarae rhan hollbwysig yn y llwyddiant ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob un ohonoch yn y dyfodol, a hefyd gyda chyfranogwyr a siaradwyr newydd.

I gloi hoffwn ddyfynnu cyfranogwr a gymrodd ran yn ein cohort cyntaf i ferched yn unig, mewn partneriaeth â Chwarae Teg.

"dau air sy'n crynhoi'r rhaglen hon – hollol angenrheidiol!"

Clywch clywch!

Sylwadau