Caledi Meddyliol – Creu Gwytnwch Rhagweithiol
Yn ein blog diweddaraf, mae'r Arbenigwr Datblygu Arweinyddiaeth Andrew Veevers yn trafod ein sesiynau dysgu rhithwir diweddar ar Galedi Meddyliol, a gyflwynwyd gan Andrew.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ION Leadership wedi bod yn defnyddio nifer o syniadau cynaliadwyedd ac yn eu troi'n weithredu, gan edrych ar ddosbarthiadau meistr posibl yn y dyfodol, gyda'r arbenigedd helaeth sydd yn y tîm.
Gan adeiladu ar ein hethos o ddysgu drwy brofiad, hysbysebwyd digwyddiad dwy ran gennym, gan ganolbwyntio ar un o'r sgiliau sy'n tyfu gyflymaf sydd eu hangen yn y byd modern - Caledi Meddyliol, a chreu gwytnwch rhagweithiol.
Yn cael ei gyflwyno dros ddau sesiwn 90 munud, cafodd sylfeini’r pwnc eu nodi, gan drafod sut caiff Caledi Meddyliol ei fesur, y tarddiad a dilysu'r pwnc yn y drafodaeth gyntaf.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau ac arsylwadau Jim Loehr EdD. a’r Athro Peter Clough ac wedi’i gyflwyno gan AQR International, ceir bellach fesur a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn cael ei ddefnyddio gan athletwyr elitaidd a pherchnogion busnes ac arweinwyr ym mhob cwr o’r byd, gan helpu i ffurfio sail y sgwrs.
Aeth y gweithdy cyntaf yn ei flaen drwy edrych ar y 4 C a’r 8 Ffactor mewn Caledi Meddyliol a gadawodd y grŵp i hunanadlewyrchu ar beth yw eu cryfderau a'u meysydd i’w datblygu, gan ddefnyddio'r wybodaeth newydd hon.
Roedd yr ail ddosbarth meistr yn fwy rhyngweithiol, gan rannu tua 20 o weithgareddau ac ymarferion y gellir eu cwblhau i feithrin Caledi Meddyliol personol a thîm, gan annog y grŵp i ymarfer eu gweithgareddau dewisol yn bwrpasol, gyda'r canlyniadau i'w gweld o fewn 3 i 4 wythnos.
Rhannwyd y ffocws hwn yn Chwe Ymyriad o Galedi Meddyliol - Meddwl yn Gadarnhaol, Gosod Nodau, Rheoli Sylw, Delweddu, Rheoli Gorbryder a Hunanymwybyddiaeth.
I gyd-fynd â'r arddull gyflwyno, anogwyd y grŵp i feddwl am ymarferion ychwanegol yn y chwe maes yma, i greu pecyn adnoddau personol o weithgareddau yn y dyfodol, ar ôl iddynt ddod yn gyfarwydd â'r cysyniad. Cafodd hyn groeso da gan y grŵp, gydag unigolion yn aros ar y ddarpariaeth rithwir ar ôl y ddau sesiwn, i gael amser un i un gyda ni a chael ateb cwestiynau pellach.
Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflwyno'r digwyddiad hwn, gyda'r adborth yn cael ei gasglu a'i adolygu i gefnogi archwiliad pellach o bynciau cynaliadwyedd posibl wrth symud ymlaen.
Mae arwain grŵp o fwy nag 20 o berchnogion busnes, arweinwyr ac ymgynghorwyr drwy eu profiad(au) cyntaf o'r pwnc hwn yn un o'r llu o bethau cadarnhaol a drafodwyd yn y sesiwn dadfriffio, wrth i ni barhau i ehangu ein cyrhaeddiad a bod yn bartner dibynadwy ar gyfer pob agwedd ar arweinyddiaeth.
Cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianelau cyfryngau cymdeithasol - Twitter, LinkedIn, Facebook – am wybodaeth am sesiynau dysgu rhithwir yn y dyfodol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am ein rhaglenni arweinyddiaeth sydd i ddod sydd wedi’u cyllido’n llawn, ewch i’n tudalennau Cyrsiau.
Sylwadau