Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Bywyd Merch o fon yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau suymud

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 18/5/2020

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Gwenllian D Owen, Uwch Reolwr Rhaglen Arweinyddiaeth ION ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu pam ei bod yn sicrhau ei bod yn cael allan i’r awyr iach i redeg/cerdded neu feicio yn y “lle harddaf ar y ddaear”.

Gwenllian_1.JPGPan fyddaf yn codi oddi wrth y bwrdd bwyd/swyddfa gyda’r nos, byddwch yn fy ngweld yn rhedeg allan o’r drws, unai i fynd am dro, i gerdded, i redeg neu reidio’r beic! ‘Rwy’n ffodus iawn fy mod yn byw ar Ynys Môn, Y LLE harddaf ar y ddaear, ac fod gennyf ddigon o lefydd i ddianc iddynt, yn syth o’r drws ffrynt! Teithiau cerdded hir ar lonydd bychan neu teithiau cerdded ar hyd y llwybr beicio sydd yn gorffen mewn pentref o’r enw Malltraeth ac yn edrych dros yr aber lle roedd yr arlunydd Tunnicliffe yn byw ac yn darlunio byd natur yn ei ogoniant. Mae’n daith gerdded 8 milltir o hyd, ond yn hynod o braf – edrych ar natur, siarad efo’r elyrch, hwyaid a’r defaid wrth gerdded heibio (dwi’n siwr eu bod yn meddwl “be goblyn mae’r ddynes ‘na mewn pinc llachar yn ei wneud?”)

Wedyn, mae’r adegau pan fyddaf yn neidio ar y beic i gael mwy o ymarfer corff ar ddiwrnod heulog braf. Mae llawer o bobl dan yr argraff fod Ynys Môn yn lle fflat! Wel, dewch draw i’r Ynys (pan fyddwn allan o’r cyfnod yma) a dywedwch hynny wedyn! Mae gennym elltydd gwych ar yr Ynys “fflat” hon coeliwch chi fi, ac fel arfer fi sydd yn cael hyd iddyn’ nhw – ond tydi hynny’n poeni dim arna i erbyn hyn gan fod gennyf feic trydan ac mae’r elltydd yn llawer iawn haws! Mi ddylwn i ddweud hefyd, mai dim ond ar elltydd y byddaf angen ychydig bach o help gan y motor trydan!!

Mae ymarfer corff wedi bod yn rhan pwysig a mawr o mywyd i erioed. Rwyf wedi rhedeg, mynd i ddosbarthiadau cadw’n heini neu feicio ar hyd fy oes. Ymarfer corff sy’n rhyddhau-straen i mi, yr adeg rwy’n gollwng stêm a gweithio pethau allan yn fy meddwl! Mae yna adegau pan rwyf wedi bod dan straen yn y gwaith ac yn methu ymlacio, felly pan fyddaf yn cyrraedd adref, byddaf yn newid i’r “gêr” ac allan a fi i redeg/jogio neu i gerdded am dipyn yn gwrando ar gerddoriaeth da. Mae’n rhoi cyfle i mi drafod, siarad efo mi fy hun am y broblem, gofyn ‘chydig o gwestiynnau a datrys y broblem. Wedyn, pan fyddaf yn cyrraedd adref rwy’n berson gwahanol, wedi ymlacio ac yn barod i fynd ymlaen efo beth bynnag sydd gennym wedi’i drefnu ar gyfer y noson honno. Rwyf wedi bod mewn ambell i sefyllfa straen uchel yn ystod fy mywyd ac mae ymarfer corff a’r awyr agored yn ddau ffactor bwysig iawn sydd wedi fy helpu drwy’r cyfnodau hyn, roedd yr ymarfer corff yn cynyddu’r endorffinau yn fy nghorff, ac yn fy helpu i ganolbwyntio ac ymlacio.

Yn ystod cyfnod y pandemig rwyf wedi bod yn helpu’r gwr, sydd yn gydlynydd ar gyfer cynllun gwirfoddoli lleol sy’n cynorthwyo cymdogion hyn a bregus pan maent angen cael ychydig o siopio ayyb. Rwyf wedi bod yn siopio i rai o’r bobl sydd yn byw yn fy ymyl yn y dref ac wedi mwynhau bod yn rhan o’r gymuned.

Rwy’n credu’n gryf yn y dywediad fod “Corff iach yn cyfrannu tuag at feddwl iach”.

Sylwadau