Alumni Case Study: Oren Foods
Mae Bwydydd OREN, sydd wedi’i leoli yng Ngwynedd, yn fusnes teuluol sydd wedi bod yn cyflenwi ffrwythau a llysiau ffres i bobl a busnesau lleol ers 1980. Gan dyfu o gefn fan fechan i ddosbarthu bellach mewn tair sir gyda naw fan, ymunodd y perchennog Gethin Dwyfor ag Arweinyddiaeth ION ar ymgais i ddeall yn well ei arweinyddiaeth, ei effaith ar y tîm a sut y gall hynny wella’r modd y mae’r busnes yn cael ei gyflawni. Mae Ken Lodge, Rheolwr Cyffredinol yn Bwydydd OREN, ar hyn o bryd yn cymryd rhan weithredol ar arweinyddiaeth ION ac mae'n adlewyrchu isod ar bwysigrwydd datblygiad proffesiynol.
Gethin, fe wnaethoch chi gymryd drosodd y busnes oddi wrth eich rhieni. Beth wnaeth eich ysbrydoli a pha lawenydd a heriau a ddaeth yn sgil hyn?
“Llawer o bleserau, hyd yn oed mwy o heriau! Roeddwn wedi dweud erioed na fyddwn byth yn cymryd drosodd y busnes, ond ar ôl treulio peth amser yn astudio a theithio yn fy mlynyddoedd iau, roedd gen i awydd gwirioneddol i redeg fy musnes fy hun. Roeddwn bob amser wedi bod â diddordeb mewn busnes a bod yn rhan o fusnes y teulu, bob haf yn helpu gyda danfon nwyddau a gyrru ac yn y blaen, roedd yn gwneud synnwyr i mi ddechrau gyda busnes y teulu gan fod fy rhieni yn agosáu at oedran ymddeol... ac yn y dyfodol i roi cynnig ar rywbeth arall pe bai popeth yn mynd yn iawn!
“Es i mewn i’r busnes o ddifrif pan oeddwn tua 25 oed a chymerais yr awenau’n llwyr 6-7 mlynedd yn ddiweddarach pan oeddwn yn 32. Rwy’n cofio meddwl fy mod eisiau cymryd yr awenau’n llwyr a bod yn berchen ar y cwmni’n llwyr ar y pwynt hwn. Roeddwn i eisiau gwneud fy newisiadau fy hun 100% a’m camgymeriadau fy hun. Doeddwn i ddim eisiau i fy rhieni deimlo bod yn rhaid iddynt ddod yn ôl i mewn i'r busnes ar ôl ymddeol. Os oedd yn mynd i fethu, fy nghyfrifoldeb i fyddai hynny ac nid nhw.
“Mi roedd hyn yn dipyn o rhyddhad iddyn nhw, ac maen nhw wedi gallu mwynhau eu hymddeoliad…gan fwyaf!”
“Mae bob amser yn her pan fydd unrhyw fusnes yn newid; roedd fy nhad a minnau yn gwrthdaro o bryd i'w gilydd, ond yn y diwedd, rwy'n teimlo mor ffodus bod fy rhieni mor agored i fy awgrymiadau ar sut i symud ymlaen. Rwyf wedi clywed gan fusnesau teuluol eraill, y bydd rhieni’n aml yn aros yn ymwneud â’r busnes am gyfnod hwy o amser – a hyd yn oed â rhyw fath o berchnogaeth – ond nid dyma’r ffordd yr oeddwn i am ei wneud. Teimlais fod angen torri i ffwrdd yn llwyr i ysgogi fy hun ac i ganiatáu rhyddid i fy rhieni fwynhau ymddeoliad go iawn”.
Pam wnaethoch chi ddewis cofrestru ar Arweinyddiaeth ION?
Ken: Ar ôl gwneud dwy flynedd o gymwysterau Adnoddau Dynol, roeddwn i eisiau ehangu fy mhrofiad i bersbectif ehangach er mwyn gallu cynghori cynllun strategol gwell ar gyfer twf, a datblygu’r wybodaeth graidd / craffter busnes ar gyfer fy Natblygiad Proffesiynol gyda’r CIPD.
Gethin: Rwyf bob amser eisiau dysgu, ac ehangu fy nealltwriaeth mewn busnes. Roeddwn i wedi bod yn edrych i mewn i arweinyddiaeth ers tro ac wedi bod yn gwrando ar bodlediadau. Roeddwn yn teimlo bod angen i mi wella fy nealltwriaeth o sut roedd fy arweinyddiaeth yn effeithio ar y rhai sy'n gweithio gyda mi, a sut y gallwn wella ar y ffordd yr oeddwn yn rhedeg y busnes. Roedd popeth roeddwn i wedi'i ddysgu cyn y cwrs yr hyn roeddwn i wedi'i brofi wrth i'r cwmni dyfu. Roeddwn i hefyd wedi clywed gan eraill fod y cwrs yn wych ar gyfer cwrdd ag arweinwyr eraill yn yr ardal leol ac roedd yn golygu y gallwn gwneud cysylltiadau â ffrindiau newydd i gael cyngor ac i glywed/dysgu o’u profiadau.
Beth oedd y manteision i chi?
Ken: O'r cwrs hwn rwyf wedi cael gwell dealltwriaeth o fy arddull arwain personol a safbwyntiau eraill ar reoli newid a deallusrwydd emosiynol. Rwyf hefyd wedi datblygu fy rôl yn y busnes o fod yn Rheolwr Adnoddau Dynol ac Iechyd a Diogelwch, i ddod yn Rheolwr Cyffredinol.
Gethin: Cyfeillgarwch a chyngor gan bobl mewn sefyllfaoedd tebyg i mi. Dealltwriaeth o arweinyddiaeth yn ei chyfanrwydd a bod llawer o agweddau ar arweinyddiaeth ac nad oes unrhyw un penodol yn iawn. Gallu deall fy nghryfderau a gwendidau fy hun a sut y gall, ac y mae, fy arddull fy hun yn effeithio ar eraill o'm cwmpas. Trefniadaeth busnes a pha mor bwysig yw cynllunio.
A fyddech yn argymell y rhaglen?
Gethin: Byddwn, ac rydw i eisoes wedi gwneud hynny. Rwy’n credu y bydd gwahanol bobl yn cael pethau gwahanol ohoni, a gall ddibynnu ar y grŵp o bobl sy’n mynychu ar yr un pryd. I mi, roedd cyngor a chyfeillgarwch fy nghydweithwyr ar y cwrs yn amhrisiadwy.
Ken: Byddwn yn bendant yn argymell y rhaglen gan ei bod wedi helpu fy natblygiad proffesiynol yn fawr, yn enwedig yr hyfforddiant un i un a roddwyd fel rhan o’r cwrs.
Sylwadau