Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Sylfaenydd LIMB-art yn cwblhau Rhaglen Arweinyddiaeth ION

Ysgrifennwyd gan A.R.Fairbank@swansea.ac.uk / 18/10/2021

Yn ddiweddar cawsom y pleser o ddal i fyny ag un o'n cynrychiolwyr Arweinyddiaeth mwyaf ysbrydoledig, Mr Mark Williams, sylfaenydd LIMB-art, cwmni dylunio a gweithgynhyrchu Prydeinig wedi'i leoli yng nghanol prydferthwch Gogledd Cymru, sydd wedi ymroddi i gynhyrchu gorchuddion coesau prosthetig cŵl. 

Sefydlwyd LIMB-art yn 2018 gan y cyn-nofiwr ac enillydd medal Paralympaidd, Mark Williams a'i wraig Rachael, yn sgil dymuniad aruthrol i helpu defnyddwyr prosthetig eraill i godi eu hyder, i fod yn falch o'r hyn sydd ganddynt  ac yn syml iawn, ond yr un mor bwysig, i gael hwyl wrth eu dangos!

Taith Mark…

21 Mehefin 1982 ... newidiwyd fy mywyd i a bywyd y Dywysoges Diana am byth ... ac er gwell.LIMB-art_-_Prosthetics_-_High_Res.jpg

Rhoddodd y Dywysoges Diana enedigaeth i'r Tywysog William a chollais fy nghoes chwith yn dilyn damwain car wrth reidio fy meic adref o'r ysgol.  Roedd yr 8 mlynedd nesaf yn dipyn o ruthr. Cefais fy nhrawsnewid o fod yn fachgen swil 10 oed, na allai nofio, i fod yn athletwr hynod hyderus yn ennill medalau yn y pwll yng ngemau Paralympaidd Seoul yn 1988  a Phencampwriaethau'r Byd ym Miami yn 1989. Ddysgodd yr holl brofiad i mi edrych ar yr hyn y gallwch chi “ei wneud”, nid yr hyn na allwch ei wneud, i ymgeisio am berffeithrwydd bob amser ac, yn anad dim, bod yn falch.

Un diwrnod yn 2017 daeth plentyn bach ataf mewn archfarchnad leol i ddweud wrthyf pa mor “cŵl” oedd fy nghoes yn edrych… roeddwn wedi gwneud gorchudd gwyrdd llachar gyda goleuadau LED yn fflachio!  O’r adeg honno, penderfynais ei bod yn amser “rhoi rhywbeth yn ôl.” Trefnais i dîm o arbenigwyr ddod ynghyd i wneud gorchuddion creadigol ar raddfa fwy, gyda digon o ddewis i bawb i’w helpu i Sefyll Allan a Sefyll yn Falch. 

Ers ein lansiad yng ngwanwyn 2018 rydym wedi rhyfeddu at y gydnabyddiaeth rydym wedi ei chael fel busnes:

  •        Enillydd gwobrau Stelios Entrepreneur - 2018
  •        Enillydd gwobrau busnes Conwy - Busnes arloesi'r flwyddyn 2019
  •        Enillydd gwobrau busnes Conwy - Busnes newydd y flwyddyn 2019
  •        Enillydd Gwobrau Busnes Cymru - Gwneuthurwr Newydd y flwyddyn 2019
  •        Enillydd Gwobrau Busnesau Bach a Chanolig - 2019 Busnes cymdeithasol y flwyddyn
  •        Enillydd gwobrau Daily Post Business - Busnes newydd y flwyddyn 2019
  •        Enillydd Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain  - Gwobr Ysbryd Entrepreneuraidd 2020
  •        Enillydd Gwobrau Menter Cymru - Busnesau bach a chanolig 2021
  •        Enillydd Prestige Cymru - Cynnyrch Arloesol 2021 (Gwneuthurwr y flwyddyn
  •        Rownd Derfynol Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain - 2021 Entrepreneur er lles (Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi)
  •       Rownd Derfynol Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain - 2021 Gwnaed yn y DU (Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi)
  •       Rownd Derfynol Gwobrau Busnesau Newydd Cymru - Gwneuthurwr y flwyddyn 2021(Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi)

 Ond mae'r holl anrhydeddau hyn yn ddibwys o’u cymharu â'r geiriau a'r sylwadau gan ein cwsmeriaid, fel:

  • “Mae'r gorchudd coes hwn wedi newid fy mywyd.”                    
  • “Mae'r gorchudd hwn yn rhoi cymaint mwy o hyder i mi.”
  • “Mae'r gorchudd hwn yn fy ngwneud i'n gyflawn.”

 Mae'r gwobrau'n gwneud i ni wenu, ond mae sylwadau'r cwsmeriaid yn ein llenwi â balchder. Mae'r llwyddiant hwn bellach wedi ein helpu i gael ein derbyn gan GIG Cymru sydd wedi ychwanegu ein gorchuddion i’w hopsiynau ar gyfer pawb yng Nghymru sydd wedi colli braich neu goes a bydd GIG Lloegr yn dilyn y symudiad hwn cyn bo hir yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae GIG Wirral eisoes yn cynnig gorchuddion creadigol i'w cleifion, mae hwn yn gam enfawr ymlaen ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at helpu'r 6000 o bobl newydd sydd colli eu breichiau neu goesau yn y DU bob blwyddyn.

 Pam wnaethoch chi ddewis cofrestru ar y Rhaglen Arweinyddiaeth ION?

Er bod gen i 25 mlynedd o brofiad o arweinyddiaeth roedd y cyfan wedi bod gydag un cwmni felly wrth i mi ddechrau fy musnes fy hun, roeddwn eisiau gwirio bod yr hyn roeddwn wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd yn gwneud synnwyr ac yn gywir.

Beth wnaethoch chi ei ddysgu o'r Rhaglen Arweinyddiaeth ION?

Nid yn unig y cefais wirio bod yr hyn yr oeddwn yn ei wybod eisoes yn iawn, ond dysgais gymaint o ffyrdd newydd o edrych ar arweinyddiaeth a deall arweinyddiaeth yn llawn ac yn bwysicach fyth deall pa fath o arweinydd ydw i. 

A fyddech chi'n argymell y Rhaglen Arweinyddiaeth ION?

 Yn bendant 100% - rwyf wedi dysgu gymaint o'r cwrs fel fy mod yn bwriadu ei weithredu ar gyfer ein recriwtiaid newydd yn Limb-art.

Sylwadau