Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Telerau

Mae’r dudalen hon (ynghyd â’n Polisi Preifatrwydd a Thelerau Defnyddio’r Wefan) yn rhoi gwybodaeth amdanom ni a’r telerau a’r amodau cyfreithiol (Telerau) yn unol â’r hyn yr ydym yn gwerthu’r gwasanaethau (Gwasanaethau) a restrir ar ein gwefan (ein safle) i chi.

Bydd y Telerau hyn yn berthnasol i unrhyw gytundeb rhyngom ni ar gyfer gwerthu Gwasanaethau i chi (Cytundeb). Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus os gwelwch yn dda a sicrhau eich bod yn eu deall cyn archebu unrhyw Wasanaethau o’n safle. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd gofyn i chi gytuno â’r Telerau hyn cyn gwneud taliad. Os ydych chi’n gwrthod derbyn y Telerau hyn, ni fyddwch yn gallu cael Gwasanaethau gennym ni.

  1. GWYBODAETH AMDANOM NI
    1. Rydym ni’n gweithredu’r wefan WWW.IONleadership.co.uk. Prifysgol Abertawe ydym ni, sefydliad addysgol a gafodd ei sefydlu o dan Siarter Brenhinol ac elusen gofrestredig gyda rhif elusen 1138342, gyda’i swyddfa weinyddol ym Mharc Singleton, Abertawe SA2 8PP.
    2. CYSYLLTU Â NI
    3. Os ydych chi’n dymuno cysylltu â ni am unrhyw reswm arall, yn cynnwys oherwydd bod gennych gwynion, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost atom at info@IONleadership.co.uk
  2. EIN GWASANAETHAU
    1. Darperir manylion am ein Gwasanaethau ar ein gwefan. Os ydych chi angen gwybodaeth bellach ynglŷn ag unrhyw un o’n Gwasanaethau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.
  3. DEFNYDDIO EIN SAFLE
    1. Mae eich defnydd o’n safle yn cael ei lywodraethu gan ein Telerau ac amodau ar gyfer defnyddio’r wefan. Cymerwch amser i ddarllen y rhain os gwelwch yn dda, gan eu bod yn cynnwys telerau pwysig sy’n berthnasol i chi.
  4. OS YDYCH CHI’N DDEFNYDDIWR
    Mae’r cymal 4 hwn yn berthnasol yn unig os ydych chi’n ddefnyddiwr.
    1. Os ydych chi’n ddefnyddiwr, gallwch brynu Gwasanaethau o’n safle yn unig os ydych chi o leiaf yn 18 oed.
  5. OS YDYCH CH’N GWSMER BUSNES
    Mae’r cymal 5 hwn yn berthnasol yn unig os ydych chi’n fusnes.
    1. Os nad ydych chi’n ddefnyddiwr, rydych yn cadarnhau fod gennych awdurdod i ymrwymo unrhyw fusnes yr ydych chi’n defnyddio ein safle ar eu rhan i brynu Gwasanaeth.
    2. Mae’r Telerau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn ffurfiol ynddyn nhw yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni, ac mae’n disodli a diddymu'r holl gytundebau, addewidion, sicrwydd, gwarantoedd, cynrychioliadau a dealltwriaethau blaenorol rhyngom ni, un ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, sy’n ymwneud â’i gynnwys.
    3. Rydych chi’n cydnabod wrth lunio’r Cytundeb hwn, nad ydych chi’n dibynnu ar unrhyw ddatganiad, cynrychioliad, sicrwydd na gwarant (os cafodd ei wneud yn ddiniwed neu’n esgeulus) nad yw’n cael ei amlinellu yn y Telerau hyn nac mewn unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn ffurfiol ynddyn nhw.
    4. Rydych chi a ni yn cytuno na fydd gan yr un ohonom unrhyw hawliad am gamliwiad diniwed neu esgeulus neu gamddatganiad esgeulus yn seiliedig ar unrhyw ddatganiad yn y Cytundeb hwn.
  6. SUT MAE’R CYTUNDEB RHYNGOCH CHI A NI YN CAEL EI LUNIO
    1. Bydd ein tudalennau yn eich arwain drwy’r camau yr ydych chi angen eu cymryd i wneud taliad i gofrestru ar gwrs. Mae ein proses archebu yn caniatáu i chi wirio a diwygio unrhyw gamgymeriadau cyn i chi gyflwyno eich taliad inni. Cymerwch amser i ddarllen a gwirio eich archeb cyn cyflwyno’r taliad os gwelwch yn dda.
    2. Ar ôl i chi wneud taliad, byddwch yn derbyn e-bost oddi wrthym yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich taliad. 
  7. EICH HAWL FEL DEFNYDDIWR I DDYCHWELYD A DERBYN AD-DALIAD
    Mae’r cymal 7 hwn yn berthnasol yn unig os ydych chi’n ddefnyddiwr.
    1. Os ydych chi’n ddefnyddiwr, mae gennych chi hawl gyfreithiol i ganslo Cytundeb o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013, am gyfnod o 14 diwrnod yn syth ar ôl cyflwyno eich taliad. Mae hyn yn golygu yn ystod y cyfnod perthnasol os ydych chi’n newid eich meddwl neu’n penderfynu am unrhyw reswm nad ydych chi’n dymuno derbyn y Gwasanaethau, gallwch ein hysbysu am eich penderfyniad i ganslo’r Cytundeb a derbyn ad-daliad. Mae cyngor ynglŷn â’ch hawl gyfreithiol i ganslo’r Cytundeb ar gael gan eich swyddfa Cyngor ar Bopeth neu’ch swyddfa Safonau Masnach leol.
    2. Nodwch na fydd canslo yn unol â 7.1 yn ddilys ar ôl y dyddiad lle’r ydych chi’n derbyn y Gwasanaethau gennym ni. Er mwyn osgoi amheuaeth, os ydych chi’n derbyn Gwasanaethau 5 diwrnod ar ôl y taliad, yna ni fyddwch yn gymwys am ad-daliad yn unol â chymal 7.1 am unrhyw rybudd canslo a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad hwnnw.
    3. I ganslo Cytundeb, mae angen i chi roi gwybod inni eich bod wedi penderfynu canslo. Y ffordd hawsaf i wneud hyn yw drwy anfon e-bost at info@IONleadership.co.uk gan gynnwys manylion eich archeb i’n helpu ni ei adnabod.
    4. Os ydych chi’n canslo eich Cytundeb, byddwn yn ad-dalu’r pris y gwnaethoch chi ei dalu am y Gwasanaeth.
  8. PRIS GWASANAETHAU
    1. Bydd pris y Gwasanaeth fel y cafodd ei ddyfynnu ar ein safle ar yr adeg yr ydych chi’n cyflwyno eich archeb. 
    2. Gall prisiau am ein Gwasanaethau newid o dro i dro, ond ni fydd newidiadau yn effeithio ar unrhyw archeb yr ydych chi eisoes wedi’i chyflwyno.
  9. SUT I DALU
    1. Gallwch dalu am y Gwasanaeth drwy drosglwyddiad uniongyrchol neu drwy ein porth taliadau diogel yn unig.