Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Arweinwyr ION yn dod â rhaglen lwyddiannus am chynllunio profiadau i Gymru am y tro cyntaf

Mae arweinwyr ION yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â KAOSPILOT, ysgol fusnes a chynllunio o Ddenmarc, i ddod â'u rhaglen cynllunio profiadau 3 diwrnod i Gymru am y tro cyntaf.

Mae’r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn cynnwys cynrychiolwyr Google, Deloitte, IKEA a Skype, a bydd y rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno yn Abertawe dros 3 diwrnod ym mis Medi 2019.

KAOS.JPGBydd y rhaglen, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cryfhau gallu busnesau i wella eu cynnyrch neu wasanaethau, cadw cwsmeriaid a datblygu cynnyrch neu wasanaethau newydd sy'n darparu gwerth i'w cwsmeriaid. Bydd y rhaglen yn galluogi cynadleddwyr i ddeall ble mae gwerth o fewn eu sefydliad a darparu fframwaith i adolygu cynnyrch a gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn ychwanegu'r gwerth mwyaf i'w cwsmeriaid.

Yn y flwyddyn y mae arweinwyr ION yn dathlu 10 mlynedd o ddatblygu arweinwyr eithriadol, mae Gary Walpole, Cyfarwyddwr y Rhaglen, wrth ei fodd o allu dod â'r profiad trochi hwn i Gymru.

“Ry’n ni’n falch iawn o ddod â'r rhaglen hynod boblogaidd hon i Gymru am y tro cyntaf. Mae gan gwsmeriaid y dyddiau hyn lawer mwy o ddewis o ran ble maen nhw’n gwario eu harian, felly mae angen i gwmnïau sicrhau bod pob elfen o'u busnes yn ychwanegu gwerth at brofiad eu cwsmeriaid. Bydd hyn nid yn unig yn golygu eu bod yn cadw'r cwsmeriaid sydd ganddyn nhw ond hefyd yn denu cwsmeriaid newydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i fusnesau fod yn gynaliadwy yn y dyfodol”.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan Katja Wessling o KAOSPILOTS

Bydd y gweithdy’n ymestyn gallu’r cyfranogwr i ddylunio a darparu budd i’r cwsmer yn gyflymach. Mae’n helpu i fagu perthnasoedd dwysach a mwy cynaliadwy rhwng cwsmeriaid a’ch gweithwyr er mwyn tyfu eich brand. Yn ystod yr hyfforddiant rydym yn ail-gynnal y broses dylunio a darparu yn seiliedig ar brofiad a’r ymchwil ddiweddaraf er mwyn creu profiadau sy’n ystyrlon iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi!

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn:

  •          Dysgu deall a mapio anghenion a dymuniadau cwsmeriaid ar gyfer y presennol a’r dyfodol
  •          Dysgu sut i roi modelau profiad ar waith i greu arloesedd
  •          Dysgu a gweithredu methodoleg syml a phwerus ar gyfer cynllunio profiadau dro ar ôl tro
  •          Dysgu sut i gynllunio a llwyfannu digwyddiadau pwerus sy'n crisialu’r hyn sydd bwysicaf i'ch cwmni a'ch cwsmeriaid.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen bellach ar agor i unigolion sydd wedi'u lleoli yn ardaloedd cydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae hyd at 70% o’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy am y rhaglen neu gallwch gysylltu ag aelod o dîm arweinyddiaeth ION yn Abertawe ar 01792 606738.

Sylwadau