Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cynhadledd Ar-Lein “Mae Gogledd Cymru ar agor i Fusnes - Y Pwer o Newid Positi

Proses cofrestru wedi cau

Mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen.

Manylion digwyddiad
10 Rhagfyr
Online
10am - 3pm
£0.00 eich cyfraniad

Crynodeb digwyddiad

Ymunwch â ni ar gyfer ein Cynhadledd flynyddol “Mae Gogledd Cymru ar agor i Fusnes”, “Y Pwer o Newid Positif” dydd Iau 10fed o Ragfyr. Hwn fydd y Gynhadledd cyntaf i ni ei gynnal yn rhithwir ac mae gennym siaradwyr gwadd ysbrydoledig a fydd yn ymuno â ni o leoliadau ar draws y byd i gynnig positifrwydd a chyfle i ganolbwyntio ar ôl blwyddyn sydd wedi bod yn heriol iawn i sawl un.

Gyda thrawsdoriad o faterion a phynciau yn cael eu trafod, thema’r diwrnod fydd pwysigrwydd a phwer newid cadarnhaol mewn busnes ac fe fydd yn ysgogi arweinwyr busnes i gofleidio newid, ond hefyd defnyddio newidiadau positif i symud eu busnesau ymlaen yn 2021. Bydd sesiynau gyda pherchnogion busnes sydd wedi mynychu Rhaglen Twf Busnes 20Twenty, Arweinyddiaeth ION ac Academi Fusnes Gogledd Cymru a chlywed am y ffyrdd arloesol maent hwy wedi newid ac addasu eu busnesau a sut mae’r dyfodol yn edrych. Cyfle gwych i ddarfod y flwyddyn yn dathlu llwyddiannau cwmniau ac unigolion sydd wedi cymryd rhan ac i arddangos yr effaith mae’n rhaglenni ym Mhrifysgol Bangor wedi’u cael ar fusnesau ar hyd Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Kate Hardcastle MBE, Arbenigwr Busnes a Defnyddwyr

Mae’r arbenigwr Defnyddwyr Kate Hardcastle yn ymgynghorydd busnes a sylwebydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’n gyflwynydd a gohebydd busnes uchel ei pharch, mae wedi creu ac wedi ymddangos mewn rhaglenni dogfen a sioeau Teledu a Radio ar y BBC, ITV, Sianel 4, Sianel 5, Sky a CNN. Mae hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i Forbes.com.

Graham Dobbin – Asentiv Efrog Newydd

Ar ôl cyrraedd Efrog Newydd o Ogledd Cymru 3 blynedd yn ôl– cychwyn busnes newydd, mewn gwlad newydd ac heb unrhyw gleientiaid – prysurodd Graham ei hun drwy adeiladu ei rwydwaith yn y ffordd gywir - Cysylltu gyda Phwrpas. O fewn 18 mis, roedd yn gweithio gyda We Work, The World Bank, BMW a Google ynghyd ag amryw eraill. Mae cynnal cyfarfodydd rhwydweithio a chlwb busnes Siambr Fasnach Manhattan, The Terrace Club yn y Rockefeller Centre a Tommy Bahama’s yn rhoi cyfle i rwydwaith Graham gael mynediad at ei gilydd mewn ffyrdd gwahanol. Mae ei rwydwaith hefyd wedi arwain ato’n gweithio gyda chleientiaid yn Awstralia, De Africa a’r Almaen. Rhai o’r uchafbwyntiau diweddar yw cael ei ddewis fel arbenigwr ar gyfer ymgyrch deledu cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau ar adferiad busnes a thwf ynghyd â chyflwyno ei raglen radio ei hun ar Talk Radio NYC – The Mind Behind Leadership.

Kathryn Roberts, Swyddog Dysgu a Datblygu, Prifysgol Bangor

Fel Cymrawd o Sefydliad Siartredig Personel a Datblygu (FCIPD) mae gan Katy dros 25 mlynedd o brofiad mewn AD a Datblygu Arweinyddiaeth a phrofiad o fewn amryw o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a sefydliadau rhyngwladol. Dechreuodd ei gyrfa ym myd AD yn y sector manwerthu efo Safeway, Makro a House of Fraser a chymerodd swyddi Uwch ac AD strategol a Datblygu Arweinyddiaeth o fewn y sector Gyllid gyda Citigroup a Bank of America (MBNA), lle bu’n arwain ar dimau Cysylltiadau Gweithwyr,Boddhad Cysylltiol,Gwobrwyo a Chydnabod.

Stephen Davies, Prif Weithredwr, Penderyn

‘Byd Wisgi: Tyfu eich brand yn yr hinsawdd presennol’

Mae Stephen wedi arwain Penderyn ers Ionawr 2005, yn adeiladu Malt Sengl Penderyn a brandiau eraill y ddistyllfa, a chyn hynny wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol gyda Gwasanaethau Diwydiannol Brambles yn y Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd. Mae wedi cymryd gwaith anweithredol eang mewn datblygu busnes ynghyd â chyfnod o dair blynedd fel aelod o fwrdd Ymddireidolaeth Prawf Cymru. Mae gan Stephen radd Cyd-Anrhydedd (BSc Hons) a Gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) o brifysgol Keele yn Swydd Stafford ac yn aelod drwy arholiad o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (MCIPS).

Sophie Morris, Worldspan

‘Newid mewn Byd Digwyddiadau’

Sophie yw Rheolwr Gyfarwyddwr Worldspan. Wedi cychwyn ei gyrfa yn Worldspan yn y 90au cynnar, mae wir yn adnabod y busnes y tu chwith allan. Mae Sophie wedi trefnu digwyddiadau ymhob cornel o’r byd ac yn gefnogwr brwd o bwer gafaelgar a digwyddiadau sydd yn cael eu rhedeg yn ddi-ffael. Mae’n dweud y stori am sut mae’r busnes wedi gorfod newid ac addasu er mwyn goroesi.

Martin Williams, Radar P.R.

‘Cysylltiadau Cyhoeddus ar gyfer Busnes – Cael eich stori allan’

Ganwyd Martin yn Llanelwy. Ymunodd â’r Visitor Series o bapurau newydd ym 1999 a threuliodd 15 mlynedd gyda’r cwmni (Trinity Mirror) ar deitlau megis North Wales Weekly News, Daily Post fel gohebydd newyddion a chwaraeon, golygydd newyddion a golygydd busnes. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol o’r Daily Telegraph i’r New York Post. Bydd Martin yn rhannu rhai o’r cyfrinachau am gysylltiadau cyhoeddus gwych.

Mark Bryant, Fastway to Fitness

Iechyd, Ffitrwydd a Gwytnwch

Mae Mark yn entrepreneur gydol oes, yn briod ers 14 mlynedd ac mae ganddo ddwy ferch ifanc ac yn byw yng Ngogledd Cymru. Mae’n gyfarwyddwr a chyd-berchennog o Fast sydd yn arbenigo mewn “Ffitrywdd a Lles y Gweithlu” gan helpu eu cwsmeriaid i gyrraedd perfformiad uchel iach, hyd yn oed mewn amseroedd o ansicrwydd a straen. Nid oes llawer o bobl mewn bywyd yn gallu nodi eu bod wedi hawlio eu yswiriant bywyd ac yn dal yn fyw i ddweud y stori. Mae Mark yn angerddol am rannu ei stori drwy ymrwymiadau siarad gan ddefnyddio ei 3 Cam i Berfformiad Uchel i Bawb.

Lorraine Hopkins, Hyfforddwr Proffesiynol ac Arbenigwr Dysgu a Datblygu

Mae Lorraine yn darlithio ar Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Dulliau Ymchwil yn Ysgol Fusnes Bangor ac yn Reolwr Dysgu a Gwerthuso ar raglen Twf Busnes 20Twenty. Mae gan Lorraine nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda perchnogion busnes, uwch reolwyr a’u timau mewn rôl Hyfforddiant a Hyfforddi un-i-un. Mae ganddi gefndir mewn Seicoleg, ymchwil ac academia ynghyd â 10 mlynedd o brofiad fel arweinydd ei hun yn y sector breifat.

Mark Williams, LimbART

‘Sefyll Allan a Sefyll yn Falch yng ngorchuddion coes prostethig mwyaf cwl y Byd’

Newidiodd bywyd Mark Williams am byth ym 1982 pan gafodd ddamwain car wrth reidio ei feic adref o’r ysgol ac o ganlyniad colli ei goes chwith. 8 mlynedd yn ddiweddarach daeth Mark yn athletwr yn ennill medalau yng ngemau Paralympaidd Seoul ym 1988 a Phencampwriaethau’r Byd Miami ym 1989. Pan ddechreuodd dderbyn sylwadau am y gorchuddion coes “cwl” roedd yn eu creu, penderfynodd lansio Limb-art.com ac fe dyfodd y busnes, mae nawr yn allforio i Unol Daleithiau’r America.

Bydd Cynhadledd Rhithwir “Mae Gogledd Cymru ar Agor i Fusnes” yn rhedeg rhwng 10 y bore hyd at 3 y pnawn. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ymwelwch â:

Gobeithio y byddwch yn gallu rhoi cornel fach yn eich dyddiaduron i ymuno efo ni yng Nghynhadledd Rhithwir “Mae Gogledd Cymru ar Agor i Fusnes”. Am fwy o wybodaeth leadingbusinessgrowth@bangor.ac.uk

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .