Mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen.
Crynodeb digwyddiad
Drwy wahoddiad yn unig y gellir mynychu’r digwyddiad ac mae wedi’i drefnu yn arbennig ar gyfer yr arweinyddion busnes sydd wedi ymrwymo i fynychu’r rhaglen (neu sydd yn cysidro ymrwymo) ar y rhaglen “Arwain Twf” fydd yn cychwyn ym Mis Mawrth eleni.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle gwych i chi:
- Gyfarfod efo arweinyddion busnes eraill sydd eisoes wedi ymrwymo a’r rhai sydd wedi dangos diddordeb mewn ymuno efo chi.
- Clywed gan y tim a chyfarfod gyda busnesau eraill sydd eisoes wedi cwblhau’r rhaglen – cyfle arbennig i ofyn unrhyw gwestiynnau fydd gennych….
- Cymryd rhan mewn dosbarth meistr byr mewn “Steil Arweinyddiaeth ION” fydd yn cael ei gyflwyno gan seicolegydd busnes, Pauline Bowe, i roi blas i chi o beth yw Arweinyddiaeth ION!
Mae Pauline yn rhedeg Ymgynghoriaeth Datblygu Sefydliadau a Chymhelliant sydd yn weithredol yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae ganddi brofiad helaeth o ddarlithio a chymell at lefel Prif Weithrewr. Mae Arweinyddiaeth ION yn falch iawn o gael Pauline fel aelod o’r tim cyflwyno.
Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.