Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Rhaglen Arweinyddiaeth Cyfnod Cynnar - NLB6 - Bangor

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
Dechrau 11 Rhagfyr (Gall y dyddiadau newid)
Bangor
Dyfarniad Cymhwyster ILM Lefel 3
09:00-17:00
O £595 (eich cyfraniad)

Crynodeb cwrs

Darganfod yr arweinydd ynoch chi  

  • Darganfod dulliau arweinyddiaeth cyfoes
  • Darganfod ffyrdd newydd o ennyn diddordeb ac ysgogi pobl
  • Dylunio bwrdd stori eich llwyddiant yn y dyfodol
  • Gwella perfformiad busnes, gyrru cynhyrchiant a chreu gwerth ar gyfer cwsmeriaid. 

Mae'r rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i ddatblygu a gwella sgiliau arwain a rheoli perchnogion, entrepreneuriaid, arweinwyr, rheolwyr a goruchwylwyr sydd ar gamau cynnar datblygu eu sgiliau arwain.   Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau sy'n galluogi twf a chynaliadwyedd eu sefydliadau.  

Bydd y rhaglen hon hefyd yn cynorthwyo arweinwyr ac entrepreneuriaid a all fod â rolau lluosog o fewn eu sefydliad ar gyfnod cynnar, wrth iddyn nhw gydbwyso anghenion gweithredol a strategol o ddydd-i-ddydd y busnes. Maen nhw wedi cyrraedd cam lle maen nhw’n datblygu systemau a phrosesau rheoli proffesiynol o fewn y busnes, yn dirprwyo cyfrifoldeb i dîm medrus wedi ei rymuso ochr yn ochr â dysgu sut mae arwain ac nid dim ond rheoli.  

Mae ein rhaglen Cyfnod Cynnar wedi ei chynllunio i sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hannog i ddeall eu dull eu hunain o ymwneud ag arweinyddiaeth, ac wedyn ystyried rolau a thasgau’r tîm i greu fframwaith busnes cryf ar gyfer twf a chynaliadwyedd eu sefydliad.

Strwythur rhaglen

  • Cynllun datblygiad personol a dyddiadur myfyriol
  • Dosbarthiadau meistr gyda digon o gyfle i gymryd rhan
  • Dysgu gan gyfoedion a grwpiau cynllunio gweithredu
Diwrnod Sylfaen
Deall y daith at arweinyddiaeth effeithiol
11 Rhagfyr 201909:00 - 17:00TBC
Bwtcamp sefydliadau sy'n dysgu
2 ddiwrnod
15 & 16 Ionawr 202009:00 - 17:00TBC
Arwain eich hunan: Dosbarth meistr 1
Deall arweinyddiaeth
12 Chwefror 202009:00 - 17:00TBC
Arwain pobl: Dosbarth meistr 2
Sut rydyn ni'n gweithio gyda phobl a busnesau
11 Mawrth 202009:00 - 17:00TBC
Arwain twf: Dosbarth meistr 3
Sut gallwn ni ddefnyddio adnoddau yn y ffordd orau
22 Ebrill 202009:00 - 17:00TBC
Y daith ddysgu
Myfyrio a cyfleu
15 Mai 202009:00 - 17:00TBC

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is 6 + two

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .