Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar
ionleadership@swansea.ac.uk

Cohort Arweinyddiaeth Uwch AS2

Proses cofrestru wedi cau Gwneud ymholiad

Mae'r cwrs wedi gorffen.

Manylion cwrs
9 diwrnod dros gyfnod o 7 mis
Pen-y-bont
ILM 4,5,7
09:00 - 17:00
O £1295 (eich cyfraniad)
YouTube
Play video

Crynodeb cwrs

Esblygu o'r da i'r gwych  

  • Darganfod eich strategaethau 'Hawl i Ennill'
  • Gwerthuso a chanolbwyntio eich galluoedd sefydliadol i sicrhau'r twf gorau posibl
  • Mireinio eich dealltwriaeth o gwsmeriaid a sut i’w denu
  • Cael dealltwriaeth ddyfnach o rinweddau arweinyddiaeth, meddwl a chamau gweithredu sy'n gyrru llwyddiant a gwydnwch sefydliadol
  • Dysgu sut gall eich tîm wynebu’r her o newid wrth i’ch sefydliad brofi twf a newidiadau byd-eang

Mae Arweinyddiaeth Uwch wedi ei chynllunio i’ch helpu chi i wella eich uchelgeisiau sefydliadol.  Mae natur ein rhaglen yn seiliedig ar brofiadau - llai o waith ystafell ddosbarth, mwy o waith ymarferol, a mwy o eiliadau 'AHA'. A thrwy eich profiadau byddwch yn ffurfio cysylltiadau sy'n para am oes, rhwydwaith amhrisiadwy sy'n ymestyn y tu hwnt i gyfnod y rhaglen. Ymysg y rhai sy'n cynnal Arweinyddiaeth Uwch mae’r Athro Paul Hannon o Brifysgol Abertawe sydd wedi ennill Gwobr Addysg Entrepreneuriaeth, a roddwyd gan Ganolfan fyd-enwog Sten K. Johnson ar gyfer Entrepreneuriaeth yn Sweden.

Strwythur rhaglen

  • 9 diwrnod o arweinyddiaeth busnes drwy brofiad
  • Caiff yr holl ddysgu ei ategu gan ymchwil blaengar 
  • Mae heriau ystafell y bwrdd yn eich helpu chi i fynd i'r afael â materion eich sefydliad  
  • Cyfleoedd cadarn i ddysgu rhwng cymheiriaid a datrys problemau
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn Dosbarthiadau Meistr ychwanegol gwerthfawr 
  • Ymweliad dilynol â'r safle ymhen 3 mis gan y tîm hwyluso

Elfen ddewisol

  • Hyfforddiant unigol

Dyfarniad ILM

Wrth weithio ar eich busnes drwy’r rhaglen,

cewch y cyfle i astudio am Ddyfarniad. Gallwch ddewis o blith:

  • Lefel 4 (ILM)
  • Lefel 5 (ILM)
  • Lefel 7 Tystysgrif datblygiad proffesiynol ôl-raddedig sy’n rhan o MSc mewn Rheolaeth

Mae’r rhaglen hefyd wedi ei hardystio ar gyfer 70 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus

Pam dewis Arweinyddiaeth Uwch?

Mae Arweinyddiaeth Uwch wedi ei chynllunio

i’ch helpu chi i wella eich uchelgeisiau sefydliadol. Mae natur ein rhaglen yn
seiliedig ar brofiadau - llai o waith ystafell ddosbarth, mwy o waith
ymarferol, a mwy o eiliadau ‘AHA’. A thrwy eich profiadau byddwch yn ffurfio
cysylltiadau sy’n para am oes, rhwydwaith amhrisiadwy sy’n ymestyn y tu hwnt i
gyfnod y rhaglen. Nodir manylion pob diwrnod isod:

Diwrnod 1. Diwrnod sylfaen

· Atgyfnerthu eich arferion dysgu myfyriol i
ddatblygu mewnwelediadau o ran twf ac arweinyddiaeth

· Deall sut i weithredu diwylliant o hyfforddi
er mwyn tyfu eich sefydliad

· Paratoi ar gyfer twf personol gyda’r
holiadur Gwytnwch Meddyliol ILM

· Cwrdd ac ymgysylltu â‘ch cyfoedion ac
Arbenigwyr Datblygu Arweinyddiaeth

Diwrnodau 2 a 3. Herio Arweinyddiaeth drwy
Brofiad

Pa mor barod yw eich gyrwyr twf? Allech chi
wella eich rhwydwaith ar gyfer twf? Ydych chi’n deall pa mor wydn ydych chi? Yn
ystod y ddau ddiwrnod, byddwch yn cael cyfle i ymgysylltu â‘ch cyfoedion ac
arbenigwyr ar ddatblygu arweinyddiaeth ac yn cael cyfle i:

· Fireinio eich pwrpas, eich gweledigaeth a’ch
nodau

· Dysgu sut i herio tybiaethau (eich rhai chi
eich hun a phobl eraill)

· Deall eich gwerthusiad o wytnwch meddwl

· Dylunio eich Cynllun Datblygu Personol

· Cryfhau eich rhwydwaith twf

Diwrnod 4. Dosbarth Meistr Arwain Her Newid

Er mwyn i dwf ddigwydd, rhaid i newid ddigwydd
hefyd. Ac mae’r byd yn newid yn gynt nag erioed. Fel arweinydd twf bydd y
Dosbarth Meistr drwy brofiad hwn yn eich helpu chi i:

· Ddeall y rhesymau dros newid yn eich
sefydliad a’r amgylchedd

· Dadansoddi’r agwedd tuag at newid ymhlith y
rhai sy’n ymwneud â‘ch prosesau newid

· Rheoli a gweithredu newidiadau yn eich
gweithle

Byddwn yn eich helpu chi drwy ddarparu’r
wybodaeth rydych chi ei hangen i ragweld a chofleidio trawsnewidiadau twf

Diwrnod 5. Dosbarth Meistr Cynnig Gwerth am
Arian

Mae cyfleu neges y mae cyflenwyr, rheolwyr,
gweithwyr, a chwsmeriaid i gyd yn ei deall yn un o’r blaenoriaethau mwyaf
hanfodol ar gyfer twf effeithiol, pa un ai entrepreneur newydd ddechrau arni
ydych chi neu chwaraewr byd-eang.

Byddwch yn cael y cyfle i:

· Sefydlu beth yw’r cwestiynau allweddol y mae
angen i chi eu hateb

· Dysgu sut i greu ystyr a diben dilys y tu ôl
i’ch neges

· Dysgu sut i alinio amcanion eich tîm a
gwella gallu eich tîm i’w fynegi

· Gweithio ar eich Cynfas Cynnig Gwerth am
Arian, offeryn twf hynod o ddefnyddiol i’ch helpu chi a’ch tîm i fynd i’r afael
â’ch her cynnig Gwerth am arian yn barhaus mewn ffordd ystwyth

Diwrnod 6. Dosbarth Meistr Strategaethau ar
gyfer Twf

Pa mor barod ydych chi ar gyfer twf? Beth fydd
yn digwydd os na fyddwch chi’n tyfu mor gyflym â’ch cystadleuwyr, neu os na
fyddwch chi’n tyfu’n gyflymach na nhw? Os nad ydych chi’n tyfu - byddwch yn
mynd yn llai - oherwydd, yn ddieithriad, mae eich cystadleuwyr yn tyfu. Mae’r
Dosbarth Meistr hwn, dan arweiniad yr Athro Paul Hannnon, wedi ei gynllunio
i’ch helpu chi i:

· Adnabod eich galluoedd sefydliadol ac i
ddeall sut i arwain twf ar sail gallu

· Deall eich niwclews a sut i arwain
strategaethau Twf Niwclews

· Trefnu eich dewisiadau’n strategaethau a
strategaethau sut i arwain Dewisiadau o ran Twf

· Cynllunio ar gyfer Arloesi a sut i arwain
strategaethau Twf Arloesol

· Gwybod beth yw’r Tair Rheol ar gyfer Gwneud
Cwmni’n Wirioneddol Wych

Dan arweiniad yr Athro Paul Hannon

Diwrnod 7. Arwain Tîm Perfformiad Uchel

Felly, rydych chi eisiau tyfu? Ydi eich tîm
chi’n rhannu eich cymhelliant? A pha mor alluog ydyn nhw i dyfu? Mae’r Dosbarth
Meistr ION hwn wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i greu’r amgylchedd a sefydlu’r
egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n ffafriol i berfformiad uchel. Mae’r dosbarth
meistr hwn wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i:

· Ddeall anghenion ysgogol unigolion a thimau

· Ymdrin ag enghreifftiau ymarferol o
strategaethau perfformiad tîm effeithiol

· Pennu eich gweledigaeth a’ch nodau a sut i
wneud hynny’n dda

· Cydnabod a gwobrwyo perfformiad uchel mewn
timau

· Deall effaith diwylliant ar ymgysylltu a
pherfformiad

· Canfod strategaethau ac offer rheoli
ymarferol ar gyfer ffurfio a rheoli timau perfformiad uchel

Hyn i gyd a mwy - Byddwn yn ymweld â chi yn
eich busnes yn fuan ar ôl i chi orffen y rhaglen ar gyfer ymgynghoriad ar y
safle. Byddwch hefyd yn cael mynediad at ein holl Ddosbarthiadau Meistr
Ysbrydoliaeth gwych, lle’r ydym yn gwahodd arweinwyr llwyddiannus i adrodd am
eu teithiau cyflawni. A pheidiwch ag anghofio’r Sioe Fasnach - bob amser yno i
chi gynyddu eich rhwydwaith a’ch gwerthiannau. A’r farchnad, hefyd. Felly
ymunwch â ni heddiw.

Diwrnod 8. Manylion y dosbarth meistr i’w
cyhoeddi’n fuan

Diwrnod 9. Y daith dwf a graddio

Ddim ar gael ar y dyddiadau hyn ?

Parhau i bori

Yn anffodus, mae'r broses gofrestru wedi cau erbyn hyn.

What is five + 4

DIOLCH!


Mae eich neges e-bost wedi ei anfon .